Partneriaeth sy’n pontio ffiniau

Mae Cynghrair Mersi a Dyfrdwy’n bartneriaeth lwyddiannus sy’n hybu twf economaidd strategol ledled gogledd ddwyrain Cymru, gorllewin Swydd Caer a Chilgwri.  Cydnabyddir ardal Mersi a Dyfrdwy’n un isranbarth economaidd a gyda phoblogaeth o bron i filiwn, mae’n un o rannau pwysicaf y Deyrnas Unedig.

Mae pump o brif ganolfannau yn rhanbarth Mersi a Dyfrdwy sy’n ategu ei gilydd yn eu swyddogaethau economaidd, er eu bod naill ochr i ffin genedlaethol Cymru - Lloegr.  Mae ardal Mersi a Dyfrdwy’n gymysgedd arbennig o economïau trefol, diwydiannol, preswyl a gwledig sy’n weithredol gysylltiedig.

Gydag economi gref ac amrywiol (sy’n cynnwys awyrennau, moduron, niwclear, ynni adnewyddadwy, cynnyrch fferyllol, cemegion, gwasanaethau ariannol, bwyd, peirianneg, TGCh, twristiaeth a manwerthu), mae ardal Mersi a Dyfrdwy yn barod am fuddsoddiad hirdymor i roi cyfleoedd i gwmnïau ddatblygu mewn rhanbarth economaidd sydd ar dwf, ac sydd â digon o dir a phobl fedrus ar gael.

Brecwast Busnes y Rhwydwaith Arloesi

Mae’r digwyddiadau hyn yn galluogi busnesau yn ardal Mersi a Dyfrdwy i siarad â’i gilydd a bod yn ymwybodol o gynlluniau a chyfleoedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ehangu a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w helpu i wynebu heriau economaidd a masnachol. 

Dysgwch fwy am y Brecwast Busnes.