Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn glir ynghylch y modd y caiff ei ddefnyddio.
Mae’r hysbysiad yn egluro sut rydym ni’n casglu, defnyddio a diogelu data personol pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon neu’n cysylltu â ni.
Pwy ydym ni
Partneriaeth o sefydliadau sector cyhoeddus sy’n cydweithio ar draws ardal afonydd Mersi a’r Ddyfrdwy yw Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.
Yn ddibynnol ar y gweithgaredd, fe allai eich data personol gael ei brosesu gan un neu fwy o sefydliadau partner. Pan fydd hyn yn digwydd, mae trefniadau rhannu data priodol ar waith er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei drin yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
Pa wybodaeth a gesglir gennym
Fe allem ni gasglu a phrosesu’r wybodaeth ganlynol:
- Eich enw a’ch manylion cysylltu pan fyddwch chi’n cysylltu â ni neu’n llenwi ffurflen
- Gwybodaeth yr ydych yn ei ddarparu yn rhan o ymholiadau, ymgynghoriadau, arolygon neu weithgaredd ymgysylltu
- Manylion sy’n ymwneud â digwyddiadau neu gyfathrebiadau yr ydych chi’n dewis cymryd rhan ynddynt
- Gwybodaeth dechnegol am eich defnydd o’r wefan, megis cyfeiriad IP, math o borwr a’r tudalennau yr ymwelwyd â nhw
Dim ond gwybodaeth sy’n angenrheidiol at y pwrpas y caiff ei ddefnyddio yr ydym ni’n ei gasglu.
Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i:
- Ymateb i ymholiadau a cheisiadau
- Darparu gwybodaeth neu ddiweddariadau yr ydych wedi gofyn amdanynt
- Cyflawni ymgynghoriadau, ymgysylltu a gweithgareddau partneriaeth
- Rheoli digwyddiadau a chyfathrebiadau
- Gwella’r wefan a deall sut y caiff ei defnyddio
- Bodloni ein cyfrifoldebau llywodraethu a chyfreithiol
Pan fyddwn ni’n dibynnu ar eich caniatâd (er enghraifft, ar gyfer cyfathrebu neu weithgaredd ymgysylltu), dim ond at y diben hwnnw y caiff eich gwybodaeth ei ddefnyddio.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data
Rydym yn prosesu data personol o dan gyfraith Diogelu Data y DU. Y seiliau cyfreithiol rydym ni’n dibynnu arnynt yw:
- Tasg gyhoeddus – pan mae prosesu yn cefnogi gwaith ac amcanion y Gynghrair
- Caniatâd – pan fyddwch chi’n dewis darparu gwybodaeth neu gymryd rhan mewn cyfathrebiadau neu weithgaredd ymgysylltu
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd.
Rhannu eich gwybodaeth
Fe allem ni rannu eich gwybodaeth gyda:
- Sefydliadau partner o fewn Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy
- Darparwyr gwasanaeth sy’n cefnogi’r wefan neu gyfathrebiadau
Dim ond pan fo’n angenrheidiol y caiff gwybodaeth ei rannu, a chaiff ei drin yn ddiogel ac yn unol â deddf diogelu data.
Nid ydym yn gwerthu data personol.
Am faint ydym ni’n cadw eich gwybodaeth
Dim ond am gyn hired ag sy’n angenrheidiol yr ydym ni’n cadw data personol, ac yn unol â chyfnodau cadw y cytunir arnynt.
Yn nodweddiadol bydd hyn yn cynnwys:
- Ymholiadau cyffredinol a cheisiadau cyswllt - yn cael eu cadw am hyd at flwyddyn ar ôl eu cwblhau
- Rhestrau postio a chyfathrebiadau - yn cael eu cadw am hyd at saith mlynedd neu hyd nes y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl
- Ymgynghoriadau, arolygon a gweithgareddau ymgysylltu - yn cael eu cadw am hyd at saith mlynedd
- Gwybodaeth am reoli digwyddiadau - yn cael eu cadw am hyd at 7 mlynedd ar ôl y digwyddiad
- Cofnodion am y wefan a systemau – yn cael eu cadw am hyd at ddwy flynedd
Mewn rhai amgylchiadau, fe ellir cadw gwybodaeth am gyfnod hirach pan fo angen yn ôl y gyfraith neu pan fo yna angen dilys dros wneud hynny.
Pan nad oes angen y wybodaeth bellach, caiff ei ddileu’n ddiogel.
Cwcis
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i:
- Sicrhau bod y wefan yn gweithio’n iawn
- Ddeall sut y caiff ei defnyddio a sut y gellir ei gwella
Gallwch reoli cwcis drwy osodiadau eich porwr Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hysbysiad cwcis.
Eich hawliau
Mae gennych hawliau o dan gyfraith Diogelu Data y DU, gan gynnwys:
- Yr hawl i gael mynediad at eich data personol
- Yr hawl i gywiro data anghywir neu anghyflawn
- Yr hawl i wneud cais i ddileu eich data (hawl i ddileu) pan fo’n briodol
- Yr hawl mewn amgylchiadau penodol i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data
- Yr hawl i wrthwynebu i brosesu sy’n cael ei wneud o dan tasg gyhoeddus
- Yr hawl i gludadwyedd data pan fo’n berthnasol
Rydym yn dibynnu ar ganiatâd, mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw amser. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw brosesu a wnaed cyn i’r caniatâd gael ei dynnu yn ei ôl.
Nid yw rhai o’r hawliau yma’n absoliwt ac maent yn dibynnu ar amgylchiadau’r prosesu.
Sut i ymarfer eich hawliau
Gallwch ymarfer eich hawliau diogelu data, yn cynnwys ceisiadau gan unigolion i weld gwybodaeth amdanynt eu hunain neu gais i ddileu eich data, trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Mae gwybodaeth bellach am sut i wneud cais, yn cynnwys y broses a pha wybodaeth y gallem fod ei angen gennych chi ar gael yma: https://www.cheshirewestandchester.gov.uk/residents/contact-us/complaints-and-feedback/data-protection-for-you
Manylion cysylltu a Swyddog Diogelu Data
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut y defnyddir eich data personol, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data:
Swyddog Diogelu Data
Cheshire West and Chester Council
- Ar-lein: Cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data
- Drwy’r post: Data Protection Officer, The Portal, Wellington Road, Ellesmere Port, CH65 0BA
Mae gennych hefyd yr hawl i fynegi pryder gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
www.ico.org.uk