Brecwast Busnes

Rhwydwaith Arloesi’r Gynghrair

 

Cynhaliwyd Brecwast Busnes cyntaf y Gynghrair yn 2010 ac mae’r rhwydwaith wedi tyfu’n gyson ers hynny ac mae mwy na 10,000 o fusnesau o boptu’r ffin bellach yn cael gwybod am ddigwyddiadau trawsffiniol.  Ers 2010, rydym wedi:  

  • Gweini mwy na 10,000 o baneidiau o de a choffi a brechdanau bacwn
  • Trefnu mwy na 55 o ddigwyddiadau trawsffiniol am ddim
  • Croesawu mwy na 8,000 o bobl ym myd busnes i rwydweithio wyneb yn wyneb
  • Ymweld â 55 o wahanol leoedd o boptu’r ffin yng Nghilgwri, Wrecsam, Swydd Gaer a Sir y Fflint
  • Cynnig mwy na 1,000 o leoedd i arddangos busnesau am ddim
  • Hwyluso cyflwyniadau gan fwy na deg o siaradwyr ymhob digwyddiad a rhoi llwyfan i fusnesau dyfeisgar.
  • Cyn y pandemig, roedd mwy na dau gant o gynrychiolwyr yn dod i bob digwyddiad a mwy fyth yn dangos diddordeb.
  • Cafwyd canmoliaeth wedi pob digwyddiad a datblygwyd rhwydwaith cryf i gefnogi’r gymuned fusnes.
  • Mae Rhwydwaith Arloesi’r Gynghrair wedi helpu i gefnogi busnesau lleol yn ardal Mersi a Dyfrdwy. Ar adegau pan roedd busnesau ar bob ochr o’r ffin yn wynebu heriau economaidd a masnachol, sefydlwyd y Rhwydwaith Arloesi i’w cynorthwyo â hynny.
  • Cynhelir brecwast busnes bob yn ail fis mewn cyfres o bump i chwech y flwyddyn gyda’r nod yn bennaf o wella perfformiad busnesau, drwy ddarparu cyfleoedd rhwydweithio busnes i fusnes a gwybodaeth am gynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Cymerwch ran yn un o rwydweithiau mwyaf arloesol ac effeithiol ar hyd y ffin rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr

Sut i gymryd rhan

Mae’r digwyddiadau’n para am awr rhwng 8.30am a 9.30am ac fe’u cynhelir mewn amryw fannau o boptu’r ffin.  Maent yn ddigwyddiadau anffurfiol iawn gyda tua 40 munud o rwydweithio a chyflwyniadau a siaradwyr am 20 munud.

Mae busnesau’n noddi pob digwyddiad i dalu costau lluniaeth.    Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi brecwast busnes neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni ar 0151 356 6567 neu un o’r dewisiadau eraill ar y dudalen ‘cysylltwch â ni’.