Datblygu Economi Mersi a Dyfrdwy
Mae ardal Mersi a Dyfrdwy’n rhanbarth strategol, deinamig a phwysig. Mae eisoes yn cyfrannu’n helaeth at economi’r Deyrnas Unedig a cheir potensial o hyd am dwf economaidd sylweddol ledled y rhanbarth.
Prif Uchafbwyntiau a Chyflawniadau
Mae ailagor rheilffordd Cromlin Halton a’r gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a gogledd Cymru yn enghraifft ddiweddar o gydweithio trawsffiniol, gydag oddeutu hanner miliwn o deithwyr ar y lein hon yn y chwe mis cyntaf ers ailagor. Drwy ddal i fuddsoddi yn y rhanbarth unigryw hwn, gellir agor y drws i fwy o weithgarwch economaidd a chyfrannu’n fwy helaeth at Bwerdy Gogledd Lloegr ac economi’r Deyrnas Unedig.
Mae Tasglu Rheilffyrdd Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy wedi gwneud cynnydd ardderchog yn y deunaw mis diwethaf. Mae’r ymgyrch hon yn esiampl wirioneddol o gydweithio trawsffiniol. Gwnaed cynnydd gyda Chromlin Halton, cynyddu capasiti Gorsaf Caer, gwella’r rheilffordd a’r gwasanaeth rhwng Wrecsam a Bidston a chyflymu rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Tasglu’n dal i lobïo am fuddsoddiad i wella cysylltiadau rheilffordd yn ardal Mersi a Dyfrdwy a’r cyffiniau. Cliciwch yma i weld y dogfennau.
Bu’r Gynghrair yn cefnogi gweithgor Metro Gogledd Cymru. Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen wrth wella Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, Canolbwynt Cludiant Wrecsam, Gorsafoedd Cyfnewid Glannau Dyfrdwy a Shotton a’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Glannau Mersi.
Bu’r Gynghrair yn cefnogi’r gweithgor yng ngham cyntaf prosiect Coridor Twf Caer a Brychdyn – a elwid o’r blaen yn Ffordd Liniaru Gorllewin Caer.
Bu’r Gynghrair yn gweithio’n agos â Thasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy i hybu’r blaenoriaethau cludiant ar gyfer ardal Mersi a Dyfrdwy i’w cynnwys yng Nghynllun Cludiant Strategol TfN. Rydym yn falch o weld fod hynny’n cynnwys cynyddu capasiti Gorsaf Caer a gwella’r gwasanaeth a’r lein rhwng Wrecsam a Bidston. Mae’n bwysig ein bod yn dal i lobïo TfN i gynnwys ein blaenoriaethau trawsffiniol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd.
Ym mis Medi 2018, noddodd Cynghrair Mersi a Dyfrdwy a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru Symposiwm Sgiliau a Dyfeisgarwch Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy, ar y cyd â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer. Roedd mwy na 70 o gynrychiolwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus yn bresennol.
Ymysg y siaradwyr roedd Ken Skates AC drwy neges fideo, Sasha Davies, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru; Iwan Trefor Jones, Bwrdd Uchelgais Economaidd/Bargen Dwf gogledd Cymru; Christine Gaskell, Cadeirydd Partneriaeth Menter Leol Swydd Caer a Warrington; Ian Lucas, AS Llafur Wrecsam; yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr.
Buont yn myfyrio ynghylch eu profiadau wrth weithio yn ein rhanbarth trawsffiniol a’r heriau rydym yn eu hwynebu â sgiliau, gan gynnwys sut fedrwn gadw a denu graddedigion medrus a sut fedr prifysgolion a diwydiant weithio gyda’i gilydd i wneud ein rhanbarth yn gryfach fyth. Panel Diwydiant yn cynnwys Ynni Niwclear Horizon, Airbus, Unilever, Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Grŵp Denis Ferranti.
Ym mis Ebrill 2018, cynhaliodd y Gynghrair Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Glân Mersi a’r Ddyfrdwy mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington. Y canlyniad mwyaf arwyddocaol o’r Uwchgynhadledd oedd cydnabod yr angen a’r ewyllys pendant i weithio gyda’n gilydd ar bob ochr o’r ffin i gefnogi twf y sector ynni.
Un o brif ganlyniadau’r Uwchgynhadledd Ynni trawsffiniol oedd cydweithio â’r sector ynni i greu prosbectws ynni ar gyfer ardal Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy. Cyhoeddwyd Prosbectws Ynni a Thwf Glân Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy ym mis Mawrth 2020. Cliciwch yma i weld y dogfennau.
Un o’r blaenoriaethau ar gyfer 2018/19 oedd cryfhau’r berthynas gydag Awdurdod Cyfunol Dinas-ranbarth Lerpwl. Roeddem yn falch o groesawu’r Awdurdod Cyfunol yn aelodau o’r Bwrdd ym mis Mawrth 2018, ynghyd â’r aelod o Gyngor Cilgwri oedd eisoes wedi ymuno. Mae Cyngor Cilgwri’n dal i gyfrannu’n helaeth at y Gynghrair ac yn gweithio fel prif gynrychiolydd y Ddinas-ranbarth. Bydd hynny’n galluogi’r bartneriaeth i gael gwell syniad o waith Dinas-ranbarth Lerpwl a’r budd ehangach y gellid ei gyflawni drwy gydweithio ymhellach.
Rydym yn falch o weld bod cydweithwyr yng ngogledd Cymru wedi sicrhau £120 miliwn o’r Cynllun Twf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a £120 miliwn mewn arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru. Bu’r Gynghrair yn dadlau o blaid Cynllun Twf i Ogledd Cymru ers tro bellach, a bydd y gefnogaeth honno’n parhau yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yng ngogledd Cymru i gefnogi’r elfennau trawsffiniol o flaenoriaethau’r Cynllun Twf. Cliciwch yma i weld y dogfennau.
Mae’r Gynghrair yn dal i gefnogi busnesau yn rhanbarth Mersi a Ddyfrdwy drwy gynnal digwyddiadau rhwydweithio trawsffiniol y Brecwast Busnes. Yn 2018/19, cynhaliwyd chwech o ddigwyddiadau mewn amryw fannau yng Nghymru a Lloegr. Cynigir lleoedd yn rhad ac am ddim a’r cyntaf i’r felin gaiff falu, ac mae’n ffordd i fusnesau “gymryd rhan yn un o’r rhwydweithiau mwyaf dyfeisgar ac effeithiol yn ardal y ffin rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr”. Mae mwy na 153 (check) o gynrychiolwyr yn dod i bob digwyddiad ar gyfartaledd. Ceir lle i gynnal arddangosfeydd am ddim ymhob digwyddiad a chaiff sefydliadau a chyflogwyr ddau funud i sôn am eu busnes a’r gefnogaeth a chyllid y gallai fod ar gael.
Mae pecynnau nawdd ar gael ar gyfer pob digwyddiad. Am fwy o fanylion am sut i noddi Brecwast Busnes yn y dyfodol, e-bostiwch mda@cheshirewestandchester.gov.uk
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein digwyddiadau Brecwast Busnes.