Cynllunio at y Dyfodol

Gweledigaeth Strategol

Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r Gynghrair wedi rhoi blaenoriaeth i gysylltiadau cludiant a datblygu sgiliau er mwyn hwyluso mynediad at ganolfannau cyflogaeth a marchnad waith sy’n helpu busnesau i ffynnu a thyfu.  Yn ogystal â’r gweithgareddau hyn, a fydd yn dal yn flaenoriaethau i’r Gynghrair, bydd y bartneriaeth hefyd yn canolbwyntio ar gysylltedd digidol a charbon isel fel prif themâu trawsffiniol.

Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd y Gynghrair Brosbectws Twf Mersi a Dyfrdwy, sy’n manylu ynghylch y buddsoddiad sydd ei angen i ddatgloi holl botensial economaidd y rhanbarth ac ym mis Mawrth 2020, lansiodd y Gynghrair Raglen Fuddsoddi i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Prosbectws Twf.  Amcanion pennaf Prosbectws Twf Mersi a Dyfrdwy a’r Rhaglen Fuddsoddi yw:

Gwella cysylltiadau rheilffordd o boptu’r ffin drwy lobïo o blaid buddsoddiad yng ngorsafoedd Caer, Shotton a Glannau Dyfrdwy, y rheilffordd rhwng Wrecsam a  Bidston/Lerpwl ac yn y pen draw, trydaneiddio Prif Lein Arfordir Gogledd Cymru.

Gwella cysylltiadau ffyrdd o boptu’r ffin drwy lobïo o blaid buddsoddiad i wella’r A494, A483, A550 a’r A41, Coridor Twf Caer a Brychdyn yn bennaf, yn ogystal â sawl prif lwybr trawsffiniol arall.

Gwella effeithlonrwydd y farchnad lafur trawsffiniol a’r modd y datblygir sgiliau.

Hybu a hwyluso trefniadau cydweithio ar draws y ffin ym maes cysylltedd digidol.

Hybu a hwyluso trefniadau cydweithio ar draws y ffin ym maes carbon isel a thwf glân.

Mewn partneriaeth gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Phartneriaeth Economaidd Leol Swydd Gaer a Warrington, mae’r Gynghrair hefyd wedi llunio Prosbectws Ynni Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy, sy’n dangos bod ardal Mersi a Dyfrdwy mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i’r galw am dwf glân a fforddiadwy a darparu arweinyddiaeth yn hynny o beth – yn enwedig ym maes niwclear, hydrogen, storio, ynni adnewyddadwy a rhwydweithiau clyfar.

Yn 2015, bu’r Gynghrair yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sefydlu Tasglu trawsffiniol i ymgyrchu o blaid buddsoddi mewn seilwaith rheilffordd a gwasanaethau ledled ardal Mersi a Dyfrdwy a thu hwnt. Lansiwyd cynghrair trawsffiniol o arweinyddion busnes, gwleidyddol a sector cyhoeddus, Growth Track 360, i sicrhau gwerth £1 biliwn o welliannau rheilffordd a fyddai’n trawsnewid economi ranbarthol gogledd Cymru a Swydd Gaer a darparu 70,000 o swyddi newydd dros ugain mlynedd. https://www.growthtrack360.com 

 

Gellir lawrlwytho Prosbectws Twf Mersi a Dyfrdwy, Prosbectws Ynni Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy a Rhaglen Fuddsoddi Mersi a Dyfrdwy isod.

 

Dogfennau Defnyddiol

 

 

Mersey Dee Growth Prospectus document thumbnail   

Prosbectws Twf Mersi a Dyfrdwy

  

Growth Track 360

Prosbectws Rheilffordd Strategol Gorllewin Lloegr a Chymru

Cynllun Twf Gogledd Cymru

Prosbectws Ynni Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy

Pecyn Ysgogi Cyllidol

Atebion i Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r Pecyn Ysgogi Cyllidol

 

Datganiad i’r Wasg ynglŷn ag Ysgogi Cyllidol Mawrth 2021

Cynghrair Mersi a Dyfrdwy a HyNet