Gwybodaeth

Pontio’r ffin rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr

Nod Cynghrair Mersi a Dyfrdwy yw hybu proffil a hunaniaeth y rhanbarth ar y ffin rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr; cynnal a datblygu gallu’r ardal i gystadlu; cefnogi sectorau busnes allweddol a hybu sgiliau, cyflogaeth a thwf cynhwysol, a dal i ddylanwadu ar greu gwell isadeiledd economaidd yn y rhanbarth.

Y Bwrdd

Cefnogir y Bwrdd gan Grŵp Strategaeth sy’n cynnwys uwch-swyddogion o bob un o’r sefydliadau sy’n aelodau. Aelodau’r Bwrdd yw:

  • Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer (y Corff Atebol)

  • Cyngor Sir y Fflint

  • Dinas-ranbarth Lerpwl (cynrychiolir gan Gyngor Cilgwri)

  • Llywodraeth Cymru

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • Prifysgol Wrecsam

  • Trafnidiaeth Cymru

 

Cadeirydd ac Is-gadeirydd

Mae swyddi’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd fel arfer yn cylchdroi rhwng y pedwar o Awdurdodau Lleol sy’n aelodau, bob yn ail rhwng Cymru a Lloegr; os yw’r Cadeirydd o Gymru, mae’r Is-gadeirydd o Loegr ac fel arall.

Mae aelodau’r Gynghrair yn ethol y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd bob dwy flynedd yn y Cyfarfod Blynyddol.  Dechreuodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd presennol eu swyddi ym mis Gorffennaf 2024.  Y Cadeirydd yw’r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint. Yr Is-gadeirydd yw’r Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer.

Mae aelodau Cynghrair Mersi a Dyfrdwy’n gweithio gyda budd-ddeiliaid allweddol ledled rhanbarth Mersi a Dyfrdwy; Menter Swydd Gaer ac Warrington, Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Mersi a Dyfrdwy Gogledd Cymru, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru a darparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach i gyflawni’r uchelgais gyffredin i ddatgloi’r potensial o dwf sylweddol yn ein heconomi, sydd eisoes yn llwyddiannus ac amrywiol.

 

Y Cadeirydd

Y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint

 

Is-gadeirydd

Y Cynghorydd Louise Gittins, Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer

 

Llywydd

Yr Arglwydd Barry Jones yw Llywydd Cynghrair Mersi a Dyfrdwy ers mis Tachwedd 2015; crëwyd y swydd er mwyn hyrwyddo’r ardal, y bartneriaeth a’i blaenoriaethau i fudd-ddeiliaid allweddol. Bu’r Arglwydd Jones yn gweithio’n ddiflino i wneud yn union hynny.  Bu’n effeithiol yn trefnu cyfarfodydd ag uwch-swyddogion allweddol ac Aelodau Seneddol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac o ganlyniad i hynny, mae proffil y Gynghrair a’i huchelgeisiau’n fwy hysbys.